Ffurflen adborth

Diolch i chi am gymryd yr amser i roi eich adborth ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Parc Ynni Moel Chwa. Rydym yn gobeithio i chi gael y wybodaeth gychwynnol a gyflwynwyd yn addysgiadol ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich adborth i’n helpu i ddatblygu ein cynigion.

Sylwch, y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw: 11 Mehefin 2023

1. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu targed newydd yn ddiweddar o gyrraedd 100% o anghenion trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Beth yw eich barn am y defnydd o dechnoleg gwynt ar y tir i helpu i gyrraedd hyn?
2. Yn gyffredinol, beth yw eich barn am ein cynigion cychwynnol ar gyfer Parc Ynni Moel Chwa?

4.a Rydym wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o’r effaith gadarnhaol ar y gymuned leol trwy ein Cynlluniau Parc Ynni trwy Gronfa Budd Cymunedol ac amrediad eang o fentrau eraill. Rhestrwch y themâu allweddol canlynol o 1 i 5 (1 yw’r pwysicaf, 5 yw’r lleiaf pwysig) o ran eu pwysigrwydd i chi.

Datganiad Preifatrwydd

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth o’r fath, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i’w defnyddio
yn unol â’r holl gyfreithiau perthnasol sy’n ymwneud â diogelu data personol, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR).
Sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu amdanoch chi?

Byddwn yn defnyddio’ch data personol a gesglir drwy’r ymgynghoriad hwn ar gyfer nifer o bwrpasau, gan gynnwys:

  • I ddadansoddi eich adborth i’r ymgynghoriad
  • Cynhyrchu Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, yn seiliedig ar ein dadansoddiad o ymatebion (ni chaiff unigolion eu nodi yn yr Adroddiad)
  • I ysgrifennu atoch gyda diweddariadau am ganlyniadau’r ymgynghoriad a datblygiadau eraill os ydych wedi dewis derbyn y diweddariadau hyn
  • Cadw cofnodion cyfredol o’n cyfathrebiadau ag unigolion a sefydliadau.

 

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chynnwys yn y ffurflen hon yn cael ei thrin a’i defnyddio gan y derbynwyr canlynol (neu bydd ar gael iddynt) i gofnodi, dadansoddi ac
adrodd ar yr adborth a gawn:

  • Bute Energy
  • Ymgynghorwyr yn gweithio ar y prosiect hwn
  • PEDW (a fydd yn ystyried ein cais am ganiatâd i adeiladu Parc Ynni Moel Chwa – bydd unrhyw fanylion a gyhoeddir fel rhan o’r broses hon yn ddienw)
  • Gweinidogion Cymru
  • Ein cynghorwyr cyfreithiol